Papurau Gwenlyn Parry

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 GWENLYN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004321268
      (alternative) (WlAbNL)0000321268
  • Dates of Creation
    • [1962]-1993
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg (gweler disgrifiadau'r lefelau priodol am fanylion pellach).
  • Physical Description
    • 13 bocs, 1 gyfrol (0.117 metrau ciwbig)

Scope and Content

Papurau Gwenlyn Parry, [1962]-1993, yn cynnwys sgriptiau a phapurau amrywiol yn ymwneud â'i ddramâu llwyfan, [1966]-1992, a'i ddramâu teledu, radio a ffilm, [1966]-[1991]; papurau'n ymwneud ag addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, [1966]-1991; sgriptiau gweithiau gan eraill, [1966]-1991; papurau amrywiol yn ymwneud â'i waith, megis rhageiriau ac erthyglau, 1968-[1991]; deunydd printiedig, 1962-1991; a phapurau personol a theyrngedau, 1962-1993. = Papers of Gwenlyn Parry, [1962]-1993, comprising scripts and various papers relating to his stage plays, [1966]-1992, and television and radio dramas, [1966]-[1991]; papers relating to Gwenlyn Parry and Endaf Emlyn's television adaptation of Caradog Prichard's novel Un Nos Ola Leuad, [1966]-1991; scripts of works by others, [1966]-[1991]; various work-related papers, such as prefaces and articles, 1968-[1991]; printed material, 1962-1991; and personal papers and tributes, 1962-1993.

Administrative / Biographical History

Ganwyd y dramodydd Gwenlyn Parry yn 1932 ac fe'i magwyd yn Neiniolen, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi ac Ysgol Ramadeg Brynrefail cyn ymuno â'r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Bu'n gwasanaethu fel nyrs yn yr adran feddygol am ddwy flynedd cyn ymadael i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor. Derbyniodd hyfforddiant fel pregethwr cynorthwyol yno yn ogystal.
Yn dilyn ei gyfnod yn y coleg, symudodd o Gymru i Lundain i weithio fel athro mathemateg a gwyddoniaeth. Tra yn Llundain magwyd ei ddiddordeb yn y theatr, a phan ddychwelodd i Gymru, wedi pedair blynedd yno, i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, dechreuodd ysgrifennu o ddifrif. Daeth yn gyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, yn y gystadleuaeth drama fer am ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach. Aeth ymlaen i ennill sawl gwobr wedi hyn.
Ymunodd ag adran sgriptiau'r BBC yng Nghaerdydd yn 1966. Bu'n gyfrifol am ysgrifennu a chynhyrchu nifer o raglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm, Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam (1978). Yn fwy diweddar, cyd-ysgrifennodd, gydag Endaf Emlyn, addasiad o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, ar gyfer y teledu. Enwebwyd ef am wobr BAFTA Cymru yn sgil llwyddiant y cynhyrchiad hwn yn 1992 ac eto yn 1993.
Caiff Gwenlyn Parry ei gydnabod yn un o brif ddramodwyr Cymru. Ymysg ei weithiau mwyaf nodedig mae'r dramâu llwyfan Saer Doliau (1966), Y Tŵr (1978) a Panto (1986). Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy ac yna i Ann Beynon, ac yr oedd ganddo bedwar o blant. Bu farw ar 5 Tachwedd 1991.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn saith cyfres: dramâu llwyfan Gwenlyn Parry; dramâu teledu, radio a ffilm Gwenlyn Parry; Un Nos Ola Leuad; gweithiau gan eraill; papurau amrywiol yn ymwneud â'i waith; deunydd printiedig; a phapurau personol a theyrngedau.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Ms Ann Beynon; Caerdydd; Rhodd; Mawrth 2004, Mai 2004 a Mawrth 2009; 0200401915, 0200404373.

Note

Ganwyd y dramodydd Gwenlyn Parry yn 1932 ac fe'i magwyd yn Neiniolen, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi ac Ysgol Ramadeg Brynrefail cyn ymuno â'r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Bu'n gwasanaethu fel nyrs yn yr adran feddygol am ddwy flynedd cyn ymadael i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor. Derbyniodd hyfforddiant fel pregethwr cynorthwyol yno yn ogystal.
Yn dilyn ei gyfnod yn y coleg, symudodd o Gymru i Lundain i weithio fel athro mathemateg a gwyddoniaeth. Tra yn Llundain magwyd ei ddiddordeb yn y theatr, a phan ddychwelodd i Gymru, wedi pedair blynedd yno, i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, dechreuodd ysgrifennu o ddifrif. Daeth yn gyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, yn y gystadleuaeth drama fer am ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach. Aeth ymlaen i ennill sawl gwobr wedi hyn.
Ymunodd ag adran sgriptiau'r BBC yng Nghaerdydd yn 1966. Bu'n gyfrifol am ysgrifennu a chynhyrchu nifer o raglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm, Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam (1978). Yn fwy diweddar, cyd-ysgrifennodd, gydag Endaf Emlyn, addasiad o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, ar gyfer y teledu. Enwebwyd ef am wobr BAFTA Cymru yn sgil llwyddiant y cynhyrchiad hwn yn 1992 ac eto yn 1993.
Caiff Gwenlyn Parry ei gydnabod yn un o brif ddramodwyr Cymru. Ymysg ei weithiau mwyaf nodedig mae'r dramâu llwyfan Saer Doliau (1966), Y Tŵr (1978) a Panto (1986). Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy ac yna i Ann Beynon, ac yr oedd ganddo bedwar o blant. Bu farw ar 5 Tachwedd 1991.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r archif yn cynnwys rhai papurau wedi marwolaeth Gwenlyn Parry a gasglwyd ynghyd gan Ann Beynon.

Archivist's Note

Mawrth 2009.

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhian Lyn James. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); gwefan BBC Cymru'r Byd ar Gwenlyn Parry a'i ddrama 'Y Tŵr', gwelwyd Mawrth 2009; ac eitemau o fewn yr archif;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a roddwyd i'r Llyfrgell, ar wahân i ddyblygion. Cafwyd caniatâd y rhoddwr i ddinistrio'r papurau hyn.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir sgript drama gynnar gan Gwenlyn Parry, Perla' Siwan, yn NLW ex 2153. Trosglwyddwyd y ffotograffau i gasgliad ffotograffau LlGC.

Additional Information

Published