Papurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Scope and Content

Sgriptiau dramâu amrywiol, [?1929]-[2013] (gyda bylchau), gan gynnwys dramâu gwreiddiol, addasiadau o ddramâu, a dramâu a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Administrative / Biographical History

Sgriptiau dramâu gwreiddiol ac anhysbys, addasiadau o ddramâu poblogaidd, dramâu a gomisiynwyd a sioeau plant. Fe’u perfformiwyd yn bennaf mewn cystadlaethau actio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan gwmnïau drama amatur neu ar lwyfan y brifwyl.

Arrangement

Trefnwyd yn chwe chyfres gan staff Swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn un ffeil o ddramâu amrywiol yn LlGC.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd, mis Medi 2017.

Note

Sgriptiau dramâu gwreiddiol ac anhysbys, addasiadau o ddramâu poblogaidd, dramâu a gomisiynwyd a sioeau plant. Fe’u perfformiwyd yn bennaf mewn cystadlaethau actio yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan gwmnïau drama amatur neu ar lwyfan y brifwyl.

Darparwyd rhestri o'r dramâu gan yr Eisteddfod yn ôl categori a glynwyd at yr un drefn lle bo hynny'n bosibl.

Archivist's Note

Chwefror 2018

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Additional Information

Published