CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Talsarnau

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BETTAL
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004242198
      (alternative) (WlAbNL)0000242198
  • Dates of Creation
    • 1837-1865
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • English Welsh English, Welsh
  • Physical Description
    • 1 gyfrol

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys adysgrifau, 1807-1865, o gofrestri genedigaethau a bedyddiadau Capel Bethel, Talsarnau.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd yr achos ym Methel, Talsarnau, ym mhlwyf Llanfihangel-y-traethau, Sir Feirionnydd, yn 1797. Yr oedd tair cangen i'r eglwys - Yr Ynys a godwyd yn 1868, Bryntecwyn yn 1902 a Peniel yn 1903. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1812 a'r ail yn 1865. Ychwanegwyd galeri yn 1887.
Bu Bethel yn rhan o Ddosbarth y Dyffryn yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd tan y caewyd y capel yn [1980], a chysegrwyd Yr Ynys fel eglwys yn dilyn hyn. Datgorfforwyd Capel Yr Ynys yn 1986. Erys Capel Bryntecwyn, Llandecwyn, ar agor.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn un ffeil: cofrestr genedigaethau a bedyddiadau Capel Bethel, Talsarnau.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Alun Williams, Dolgellau, ym mis Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Note

Sefydlwyd yr achos ym Methel, Talsarnau, ym mhlwyf Llanfihangel-y-traethau, Sir Feirionnydd, yn 1797. Yr oedd tair cangen i'r eglwys - Yr Ynys a godwyd yn 1868, Bryntecwyn yn 1902 a Peniel yn 1903. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1812 a'r ail yn 1865. Ychwanegwyd galeri yn 1887.
Bu Bethel yn rhan o Ddosbarth y Dyffryn yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd tan y caewyd y capel yn [1980], a chysegrwyd Yr Ynys fel eglwys yn dilyn hyn. Datgorfforwyd Capel Yr Ynys yn 1986. Erys Capel Bryntecwyn, Llandecwyn, ar agor.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Mehefin 2002.

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cronfa ddata CAPELI yn LlGC; Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, cyfrol III (Dolgellau, 1928); a CMA III/EZ1/263/5.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Ceir cofrestr bedyddiadau'r capel, 1808-1837, yn yr Archifdy Gwladol, PRO: RG4/3851 (iii) a 3848 (iii) (copi microffilm yn LlGC); yn CMA EZ1/262/1 ceir 'Casgliad y Plant at y Weinidogaeth', 1892-1912, a 'Cronfa Arian Benthyg Di-lôg', 1948-1962, yn CMA EZ1/262/3; ceir papurau amrywiol yn CMA III/EZ1/263/5, gan gynnwys trefn gwasanaeth datgysegriad Bethel, Talsarnau, a chysegriad Yr Ynys fel eglwys, [21 Chwefror 1980]; tystysgrifau trosglwyddo aelodaeth, 1979-1986; a gohebiaeth, 1985-1986. Ceir cofrestr casgliad y Weinidogaeth, 1865-1874, yn Llawysgrif LlGC 19280B. Mae adroddiadau blynyddol y Capel, 1903-1968 (gyda bylchau), ar gael yn LlGC a, 1945-1967, yn CMA III/EZ2/243. Ceir archifau hefyd yn Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau.

Additional Information

Published