Llawysgrifau Dewi Dawel,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 MSDEWIDAW
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls006697901
  • Dates of Creation
    • [?1830au]-1922 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg.
  • Physical Description
    • 10 cyfrol.

Scope and Content

Papurau David Evans (Dewi Dawel), [?1830au]-1891, yn cynnwys barddoniaeth ganddo ef ac eraill, cerddoriaeth, gohebiaeth, llyfr llythyrau a deunydd amrywiol yn ymwneud â hanes Talyllychau. Ceir hefyd ychydig o bapurau, 1922, yn gysylltiedig â llysoedd maenor Manordeilo. = Papers, [?1830s]-1891, of David Evans (Dewi Dawel), including poetry by him and others, music, correspondence, a letter book and miscellaneous material relating to the history of Talley. Also included are a few papers, 1922, relating to manorial courts in Manordeilo.

Administrative / Biographical History

Roedd David Evans (Dewi Dawel, 1814-1891) yn fardd, teiliwr a thafarnwr. Ganwyd ef 16 Medi 1814 ym Mhen-y-garn, Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, yn un o naw o blant Thomas Evans (m. 1833). Priododd Mary Davies (m. 1867) ar 10 Tachwedd 1837 a chawsant deg o blant. Sefydlodd fusnes teiliwr, yn ogystal â siop a thafarn, yng Nghwmdu, Talyllychau; roedd hefyd yn gasglwr trethi yno hyd 1881. Roedd yn gystadleuydd a beirniad rheolaidd mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol lleol, yn ogystal â mynychu amryw weithgareddau eraill. Fel Undodwr, cyfrannodd gerddi yn rheolaidd i'r Ymofynydd. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes plwyf Talyllychau a'r abaty. Cyhoeddwyd ambell i faled, traethawd a cherdd o'i waith. Bu farw David Evans yng Nghwmdu, 20 Rhagfyr 1891. Ymysg ei feibion oedd Thomas Morgan Evans (1838-1892), ysgolfeistr Cwmdu, a William Evans (Gwilym Caradog, 1848-1878); priododd un o'i ferched, Esther (1856-1935), â John Phillips Griffiths (1860-1929) ym 1882.

Arrangement

Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 3199-3206, 9510E, 16113C.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

NLW MSS 3199-3206; Mrs J. P. Griffiths, merch David Evans (trwy law ei mab Mr D. G. Griffiths, Aberystwyth); Cwmdu, Llandeilo; Rhodd; Rhagfyr 1932
NLW MS 9510E; Mr D. G. Griffiths, ŵyr David Evans; Aberystwyth; Rhodd; Awst 1934
NLW MS 16113C; Dewi G. Griffiths; Abertawe; Rhodd; Rhagfyr 1957

Note

Roedd David Evans (Dewi Dawel, 1814-1891) yn fardd, teiliwr a thafarnwr. Ganwyd ef 16 Medi 1814 ym Mhen-y-garn, Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, yn un o naw o blant Thomas Evans (m. 1833). Priododd Mary Davies (m. 1867) ar 10 Tachwedd 1837 a chawsant deg o blant. Sefydlodd fusnes teiliwr, yn ogystal â siop a thafarn, yng Nghwmdu, Talyllychau; roedd hefyd yn gasglwr trethi yno hyd 1881. Roedd yn gystadleuydd a beirniad rheolaidd mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol lleol, yn ogystal â mynychu amryw weithgareddau eraill. Fel Undodwr, cyfrannodd gerddi yn rheolaidd i'r Ymofynydd. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes plwyf Talyllychau a'r abaty. Cyhoeddwyd ambell i faled, traethawd a cherdd o'i waith. Bu farw David Evans yng Nghwmdu, 20 Rhagfyr 1891. Ymysg ei feibion oedd Thomas Morgan Evans (1838-1892), ysgolfeistr Cwmdu, a William Evans (Gwilym Caradog, 1848-1878); priododd un o'i ferched, Esther (1856-1935), â John Phillips Griffiths (1860-1929) ym 1882.

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Catalogwyd y llawysgrifau cyn i'r canllawiau cyfredol gael eu mabwysiadu ac o'r herwydd mae'r disgrifiadau ar gyfer rhain yn uniaith Saesneg.

Mae cynnwys NLW MS 3206C yn ôl-ddyddio marwolaeth David Evans.

Archivist's Note

Ionawr 2014.

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (London, 1959); Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales, Volume I (Aberystwyth, 1943);

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Additional Information

Published