Papurau Iorwerth C. Peate,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 IPEATE
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004326835
      (alternative) (WlAbNL)0000326835
  • Dates of Creation
    • 1826-1983 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg a Saesneg (gweler y disgrifiadau ar y lefelau perthnasol). Mae'r ohebiaeth yn gymysgedd o lythyrau Cymraeg a Saesneg, er ymddengys fod nifer helaethach o lythyrau Cymraeg; a'r papurau yn ymwneud a'i yrfa broffesiynol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Saesneg yn bennaf. Cymraeg yw iaith y papurau teuluol fwyaf. -- Welsh and English (see descriptions on appropriate levels). The correspondence comprises letters in both Welsh and English, although it appears that the Welsh letters are more numerous; and the papers relating to his professional career and the National Museum of Wales are mainly English. The majority of family papers are in Welsh.
  • Physical Description
    • 0.317 metrau ciwbig (33 bocs).
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau llenyddol, proffesiynol a phersonol Iorwerth C. Peate, 1826-1983, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau; papurau yn ymwneud ag amryw o'i weithiau llenyddol; papurau ynglŷn â'i yrfa broffesiynol, yn cynnwys sefydlu Amgueddfa Werin Cymru; a ffeiliau ar bynciau penodol yn ymwneud â diwylliant gwerin. Yn ogystal ceir papurau aelodau o'i deulu, yn eu plith dyddiaduron, llyfrau nodiadau, llythyrau a chyfrifon. Ceir hefyd bapurau a grynhowyd gan Iorwerth Peate a'i berthnasau. -- Literary, professional and personal papers of Iorwerth C. Peate, 1826-1983, including a substantial group of letters; papers relating to various literary works by him; papers regarding his professional career, including the establishment of the Welsh Folk Museum; and files concerning specific subjects relating to folk culture. In addition, the archive contains papers pertaining to members of his family, among which are diaries, notebooks, letters and accounts. Also included are papers accumulated by Iorwerth Peate and his relatives.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn ddau grŵp: papurau Iorwerth C. Peate a phapurau teuluol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Rhodd gan Mrs Nansi Peate ac Mrs Eirlys Peate yng Ngorffennaf 1983, Awst 1985 a Mawrth 1988.; A1983/127, A1985/109, A1988/21.

Note

Mae'r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni Iorwerth Peate, a'r dyddiad olaf wedi iddo farw, oherwydd ceir papurau a grynhowyd ganddo ac aelodau eraill o'i deulu.

Archivist's Note

Medi 2004.

Lluniwyd gan Siân Bowyer.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Iorwerth C. Peate, Rhwng dau fyd (Dinbych, 1976); R. Alun Evans, Iorwerth Cyfeiliog Peate (Bro a bywyd: 2003); Catrin Stevens, Iorwerth C. Peate (Writers of Wales: 1986); T. Robin Chapman, Iorwerth Peate (Llên y llenor: Caernarfon, 1987); Cydymaith i lenyddiaeth Cymru, gol. M. Stephens (Caerdydd, 1997); teyrnged Trefor M. Owen, Welsh History Review, cyf. 11, (1982-1983); teyrngedau Trefor M. Owen a Thomas Parry, Barn, 1982, rhif 238; 'Iorwerth Cyfeiliog Peate' gan Bobi Jones, Barn, 1983, rhif 244; a phapurau o fewn archif Iorwerth C. Peate.

Conditions Governing Use

Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â hawlfraint Iorwerth Peate at Mrs Eirlys Peate, Y Bont-faen, Bro Morgannwg.

Custodial History

Ymddengys fod rhai o'r papurau, yn cynnwys llythyrau'r 'byw', wedi eu chwynnu cyn iddynt gyrraedd LlGC (nodyn yn llaw Mr Daniel Huws).

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir atgofion byr am nifer o enwogion gan gynnwys Iorwerth Peate ymhlith papurau Mati Rees (rhif 8) yn LlGC; ynghyd ag adysgrifau o gasetiau o atgofion am lenorion Cymraeg, yn cynnwys Iorwerth Peate, a recordiwyd gan staff Cynllun Ymchwil yr Academi Gymreig (Yr Academi Gymreig: Cynllun Ymchwil. Llenorion Cymraeg Diweddar, 19). Ceir papurau yn ymwneud â Iorwerth Peate yn NLW ex 2087; ac 'Astudiaeth feirniadol o farddoniaeth Iorwerth C. Peate' gan "Bryn y Ffydd" ymhlith papurau W. R. Jones (cyfansoddiadau anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 29). Yn ogystal, cedwir 35 ffotograff o blith y casgliad (rhif derbyn: 0200409184), ffotograff du a gwyn o Iorwerth Peate, 1974 (rhif derbyn: PB9199), a blwch o negyddion gwydr (Casgliad Iorwerth Peate, rhodd 1985) yn LlGC. Ceir hefyd gopi o'r rhaglen amdano 'Gwerinwr yn ei gastell', 1982, yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru (UM/173/01); a gohebiaeth a phapurau yn Amgueddfa Werin Cymru (cyfrolau 1-3).

Additional Information

Published