Llythyrau Kate Roberts at Olwen Samuel,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 NLW MS 23991i-ivE.
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004647931
  • Dates of Creation
    • 1929-1983 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 297 ff. Gosodwyd mewn llewys melinecs a 4 blwch modrwyog yn LlGC.
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cyfres o 241 llythyr, 1929-1983, oddi wrth Kate Roberts at Mrs Olwen Margaret Samuel (née Rees), Glynebwy. Bu'r derbynydd yn ddisgybl i Kate Roberts yn Ysgol Ramadeg y Merched, Aberdâr, a chyfranodd atgofion yn Bobi Jones (gol.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Dinbych, 1969), tt. 182-8. Ceir rhai o lythyrau Olwen Samuel at Kate Roberts yn Archif Kate Roberts yn LlGC. = A series of 241 letters, 1929-1983, from Kate Roberts to Mrs Olwen Margaret Samuel (née Rees), Ebbw Vale. The recipient was a former pupil of Kate Roberts at the Aberdare County Grammar School for Girls, and contributed reminiscences to Bobi Jones (ed.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Dinbych, 1969), pp. 182-8. Some of Olwen Samuel's letters to Kate Roberts are in the Kate Roberts Archive at NLW.
Cynhwysa un llythyr gyfeiriad at amgylchiadau marw'r bardd David Ellis ym 1918 (f. 74). = One letter in this series refers to the circumstances surrounding the death of poet David Ellis in 1918 (f. 74).

Administrative / Biographical History

'Cymraeg oedd prif bwnc Olwen Rees yn y chweched dosbarth, ac yno y ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngddi hi a Kate Roberts, cyfeillgarwch a barhaodd hyd farwolaeth yr awdures. Pan fyddai Olwen yn galw i weld ei brawd Llewelyn Morgan Rees a'i wraig Joan ym Mangor, yn ddieithriad byddai yn galw i weld Kate Roberts yn Ninbych. Byddai'r ddwy ohonynt yn ysgrifennu ambell i lythyr y naill at y llall, a chadwodd Olwen y llythyrau yn ofalus. Pan fu farw Olwen ychydig flynyddoedd ar ôl ei gŵr Dewi, Joan Rees fu'n gyfrifol am wagio'r tŷ yng Nglynebwy, a phan ddaeth ar draws llythyrau gan Kate Roberts, anfonodd hwy i'r Llyfrgell Genedlaethol' (tystiolaeth Mr Cledwyn Jones, brawd-yng-nghyfraith Mrs Joan Rees, Mehefin 2009).

Arrangement

Trefnwyd yn ôl dyddiad yn LlGC mewn pedwar blwch: (i) 1929-1967; (ii) 1968-1973; (iii) 1974-1979; (iv) 1980-1983.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Mrs Olwen Samuel; Glynebwy; Rhodd; 1985; 004647931.
Ychwanegwyd rhai llythyrau gan Mrs Joan P. Rees (chwaer-yng-nghyfraith y derbynydd); Penrhosgarnedd, Bangor; Rhodd; 1991; 004647931.

Note

'Cymraeg oedd prif bwnc Olwen Rees yn y chweched dosbarth, ac yno y ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngddi hi a Kate Roberts, cyfeillgarwch a barhaodd hyd farwolaeth yr awdures. Pan fyddai Olwen yn galw i weld ei brawd Llewelyn Morgan Rees a'i wraig Joan ym Mangor, yn ddieithriad byddai yn galw i weld Kate Roberts yn Ninbych. Byddai'r ddwy ohonynt yn ysgrifennu ambell i lythyr y naill at y llall, a chadwodd Olwen y llythyrau yn ofalus. Pan fu farw Olwen ychydig flynyddoedd ar ôl ei gŵr Dewi, Joan Rees fu'n gyfrifol am wagio'r tŷ yng Nglynebwy, a phan ddaeth ar draws llythyrau gan Kate Roberts, anfonodd hwy i'r Llyfrgell Genedlaethol' (tystiolaeth Mr Cledwyn Jones, brawd-yng-nghyfraith Mrs Joan Rees, Mehefin 2009).

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Gynt Eitem dan glo 140. Cedwid yr eitemau hyn dan embargo hyd ddydd Calan 2011, ond diddymwyd yr embargo, yn unol ag ysbryd y Ddeddf Rhydddid Gwybodaeth, ym Mawrth 2009.

Preferred citation: NLW MS 23991i-ivE.

Archivist's Note

Ebrill 2009.

Lluniwyd y disgrifiad gan Maredudd ap Huw;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Custodial History

Ceisiodd Mrs Samuel ddileu rhai brawddegau yn y llythyrau cyn eu cyflwyno i'r Llyfrgell (ff. 45, 65 verso, 126, 182 verso).

Additional Information

Published