Papurau, [1849x1866], a grewyd ac a grynhowyd gan y Parch. Abednego Jenkin (Jenkyn), yn bennaf tra'n weinidog ar eglwysi Annibynol Cana a Gibeon, ger Meidrim, sir Gaerfyrddin. = Papers, [1849x1866], created and acquired by the Rev. Abednego Jenkin (Jenkyn), mainly during his ministry at Cana and Gibeon Congregational Churches, near Meidrim, Carmarthenshire.
Maent yn cynnwys copi o hanes cynnar eglwys Cana gan James Thomas a Jonah Thomas, dau o sylfaenwyr yr achos, yn 1849 (ff. 1-2), ynghyd â nodiadau ychwanegol, 1958, yn llaw y rhoddwr, Dr T. J. Jenkin (f. 3); pum llythyr, 1852-1866, yn cynnwys llythyr a chylchlythyr, 1852, oddi wrth y Parch. Thomas Rees, awdur Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (Liverpool, 1871-1891) (ff. 10-11). Ceir nodiadau pregethau gan Abednego Jenkin ar gefn y llythyrau. = They comprise a copy of the early history of Cana, compiled in 1849 by James Thomas and Jonah Thomas, two founders of the cause (ff. 1-2), with accompanying notes, 1958, by the donor, Dr T. J. Jenkin (f. 3); five letters, 1852-1866, including a letter and circular letter, 1852, from the Rev. Thomas Rees, author of Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (Liverpool, 1871-1891) (ff. 10-11). Sermon notes of Abednego Jenkin are on the dorse of the letters.
Papurau'r Parch. Abednego Jenkin,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 NLW MS 16166D.
- Alternative Id.(alternative) vtls004438900
- Dates of Creation
- [1849x1866], 1958 /
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, ychydig yn Saesneg.
- Physical Description
- 11 ff.
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.
Acquisition Information
Dr T. J. Jenkin (nai Abednego Jenkin); Aberystwyth; Rhodd; Hydref 1958
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Preferred citation: NLW MS 16166D.
Archivist's Note
Awst 2006.
Lluniwyd y disgrifiad gan Barbara Davies;
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Custodial History
Mae'n debyg i'r copi o hanes eglwys Cana ddod i law Abednego Jenkin tra'n weinidog ar yr eglwys rhwng 1859 a thua 1870. Ar ôl ei farw trosglwyddwyd rhai o'i bapurau i David Jenkin, ei hanner brawd a thad y rhoddwr. Daeth y papurau i law y rhoddwr tua 1953.
Additional Information
Published