Mae papurau Glyn M. Ashton a dderbyniwyd yn 1992 yn cynnwys ei bapurau ymchwil, ynghyd â nifer o ysgrifau ac adolygiadau, gweithiau llenyddol, sgriptiau radio, gohebiaeth a deunydd printiedig. -- Mae'r papurau a dderbyniwyd yn 2001 yn cynnwys nodiadau a drafftiau o'i erthyglau a'i ddarlithoedd; copïau o lawysgrifau; drafftiau o'i nofelau a'i ddramâu; gohebiaeth; ynghyd â chofnodion Pwyllgor Eisteddfod y Barri, 1968.
Papurau Glyn M. Ashton,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 ASHTON
- Alternative Id.(alternative) vtls004200308(alternative) (WlAbNL)0000200308
- Dates of Creation
- 1910x[1991] (crynhowyd [1930x1991]) /
- Name of Creator
- Language of Material
- Cymraeg oni nodir yn wahanol.
- Physical Description
- 0.344 metrau ciwbig (12 bocs).
Scope and Content
Arrangement
Trefnwyd rhodd 1992 yn LLGC yn wyth cyfres: papurau ymchwil; ysgrifau ac adolygiadau; sgriptiau radio; gwaith llenyddol; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; deunydd printiedig; a phapurau amrywiol; trefnwyd rhodd 2001 ar sail profiant yn LlGC, yn bedair cyfres: nodiadau a drafftiau, 1910x[1991]; cynnyrch creadigol, [1930x1991]; llythyrau, 1951-1979; a chofnodion Pwyllgor Eisteddfod Y Barri, 1968.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Rhodd gan Mr Brynmor Ashton, Penarth, brawd Glyn M. Ashton, ym mis Mai 1992, a chan Mrs E. P. M. Ashton, Penarth, gweddw Mr Brynmor Ashton, trwy law Mr Arwyn Lloyd Hughes, Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, Mai 2001; A1992/82, A2001/27
Note
Dyfalwyd y dyddiadau creu a chrynhoi diweddaraf, yn absenoldeb dyddiad amgenach, ar sail y flwyddyn y bu farw'r crëwr. Dyfalwyd y dyddiad crynhoi cynharaf ar sail troeon gyrfa Glyn M. Ashton.
Other Finding Aids
Mae copi caled ar gyfer ychwanegiad 2001 ar gael yn LLGC. Ceir disgrifiad o'r papurau a dderbyniwyd yn 1992 yn Mân Restri a Chrynodebau 1993, tt. 3-6.
Archivist's Note
Mai 2002
Lluniwyd gan Ifan Prys.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd, 1997).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published