Papurau Islwyn 'Gus' Jones, 1885-2015 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, sgriptiau, darlithiau llenyddol, darlithiau Saesneg a sgyrsiau; cerddi; ei atgofion cynnar; papurau'n deillio o'i gyfnod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth a llythyrau oddi wrth lenorion yn ymwneud â chyhoeddiadau a olygwyd ganddo.
Papurau Islwyn Jones
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 ISLNES
- Alternative Id.(alternative) 99748343502419
- Dates of Creation
- 1885-2015 (gyda bylchau)
- Name of Creator
- Physical Description
- 4 bocs
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Yr oedd Islwyn Jones neu Gus Jones fel yr oedd yn cael ei adnabod yn aml iawn yn fardd, beirniad, darlledwr a darlithydd. Fe’i ganwyd ym Mrynaman ar 5 Chwefror 1931 a bu’n dysgu yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Y Barri am bum mlynedd ar hugain. Bu farw ar 19 Ebrill 2015.
Arrangement
Trefnwyd yn bum cyfres yn LlGC: gohebiaeth, darlithiau a sgyrsiau yn Gymraeg, rhaglenni nodwedd, darlithiau a sgyrsiau yn Saesneg a phapurau eraill. Defnyddiwyd rhestr a baratowyd gan Mrs Ann Jones fel sylfaen i'r catalog.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Acquisition Information
Rhodd oddi wrth Mrs Ann Jones, Caerdydd, Rhagfyr 2016, 99748343502419.
Note
Yr oedd Islwyn Jones neu Gus Jones fel yr oedd yn cael ei adnabod yn aml iawn yn fardd, beirniad, darlledwr a darlithydd. Fe’i ganwyd ym Mrynaman ar 5 Chwefror 1931 a bu’n dysgu yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Y Barri am bum mlynedd ar hugain. Bu farw ar 19 Ebrill 2015.
Mae’r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni Islwyn Jones oherwydd ceir papurau a grynhowyd ganddo.
Archivist's Note
Mai 2017.
Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: gwefan BBC Cymru Fyw, gwelwyd Ebrill 2017 a phapurau yn yr archif.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Additional Information
Published
Full
Final