Barddoniaeth a chaneuon

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Scope and Content

Cyfrol yn cynnwys barddoniaeth a chaneuon yng Nghymraeg a Saesneg, ynghyd â rhai testunau rhyddiaith Cymraeg, a gopïwyd, [1780au], gan Humphrey Jones o Gastell Caereinion, sir Drefaldwyn. = A volume of Welsh and English poetry, with some Welsh prose texts, transcribed, [1780s], by Humphrey Jones of Castle Caereinion, Montgomeryshire.
Ceir yn y llawysgrif gerddi Cymraeg gan John Thomas o sir Drefaldwyn (tt. 2-11), John Thomas 'o bentre'r Fidog' [Pentrefoelas] (tt. 12-14), Robert Evan[s] o Feifod (tt. 16-17) a David Evans o Lanfair Caereinion (tt. 23-24), pedwar cywydd gan Morys Probert [ap Robert], Huw Llwyd Cynfel ac eraill (tt. 46-52), a phedwar englyn (tt. 52, 54). Mae'r cerddi Saesneg, ar amrywiaeth o bynciau (tt. 1, 14-15, 19-23, 25-29, 44-45, 53), yn cynnwys y gân 'On Masons and Masonry' gyda'r dôn mewn hen nodiant (t. 53). Fe gynhwysir hefyd adysgrif o'r cyfan o'r gyfrol Histori Nicodemus… A osodwyd allan gan Dafydd Jones (Yr Amwythig, [?1745]) (tt. 30-43); a rysáit meddyginiaethol ar gyfer clefyd y brenin, neu'r mandwyn (tu mewn i'r clawr blaen). = The manuscript includes Welsh poems by John Thomas of Montgomeryshire (pp. 2-11), John Thomas 'o bentre'r Fidog' [Pentrefoelas] (pp. 12-14), Robert Evan[s] of Meifod (pp. 16-17) and David Evans of Llanfair Caereinion (pp. 23-24), four cywyddau by Morys Probert [ap Robert], Huw Llwyd Cynfel and others (pp. 46-52), and four englyns (pp. 52, 54). The English poems, on various subjects (pp. 1, 14-15, 19-23, 25-29, 44-45, 53), includes a song 'On Masons and Masonry' accompanied by the tune in staff notation (p. 53). Also included is a transcript of the whole of the volume Histori Nicodemus… A osodwyd allan gan Dafydd Jones (Shrewsbury, [?1745]) (pp. 30-43); and a medical recipe for the 'King’s Evil', or scrofula (inside front cover).

Access Information

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Mr a Mrs William Williams; Aberystwyth; Rhodd (gydag NLW MSS 14403-5B); Gorffennaf 1942.

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Preferred citation: NLW MS 14402B.

Other Finding Aids

Mynegeiwyd y cerddi Cymraeg yn y gyfrol yn y mynegai ar-lein i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau (MALDWYN). http://MALDWYN.llgc.org.uk/ (gwelwyd Awst 2014).

Alternative Form Available

Mae NLW MS 3089C yn gopi ffacsimili o'r gyfrol.

Archivist's Note

Ionawr 2008 ac Awst 2014.

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Custodial History

'Thomas Evans's Book 1810' a 'William Barnad his Book 1812' (t. 54); disgrifir NLW MS 3089C (ffacsimili o'r llawysgrif yma) fel 'Hugh Evans MS' ar feingefn y gyfrol honno.

Additional Information

Published