CMA: Cofysgrifau Capel Ebenezer, Y Tymbl,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 EBTYMBL
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004334774
      (alternative) (WlAbNL)0000334774
  • Dates of Creation
    • 1907-1999 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg.
  • Physical Description
    • 0.029 metrau ciwbig (1 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cofysgrifau Capel Ebenezer, Y Tymbl, sir Gaerfyrddin, gan gynnwys llyfrau cofrestri'r eglwys, sef Llyfr Cofrestr Eglwysig, 1949-1957; cofrestr bedyddiadau, 1923-1992; llyfr o dystysgrifau claddfa'r Capel, 1910-1983; a llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, [ c. 1960]-[c. 1970]; ynghyd â llyfryn llythyron aelodaeth, 1977-1999. Ceir hefyd gofysgrifau ariannol, yn cynnwys llyfrau cyfrifon y Capel, 1932-1996; a'r Ysgol Sul, 1952-1967; a llyfrau cyfrifon y casgliadau ariannol wythnosol tuag at y Weinidogaeth, [c. 1937]-1963 a 1985-1995. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys llyfr o bregethau Abergeirw, 1907.

Administrative / Biographical History

Dechreuodd yr achos yn y Tymbl ym 1892, wedi i berchnogion y gwaith glo lleol gynnig tŷ, sef rhif 74, 'High Street', yn rhad ac am ddim i gynnal gwasanaethau crefyddol ynddo. Gyda'r brwdfrydedd yn tyfu o ran yr achos, penderfynwyd cael 'capel haiarn', a chafwyd tir yn rhan isaf 'High Street', Y Tymbl, gan yr Arglwydd Crawford ar brydles o 999 mlynedd. Yr oedd digon o le i adeiladu festri a fyddai'n dal oddeutu 200 i eistedd.
Cynyddodd yr eglwys yn gyflym rhwng y blynyddoedd 1898 a 1901, ac oherwydd hynny dechreuwyd siarad am adeiladu capel. Symudwyd y festri yn gorfforol yn nes i lawr, a phrynwyd hanner cyfer o dir i fod yn fynwent i'r eglwys gan y Parch. Richard Lloyd, Ficer Troedrhiw-yr-aur. Gorffennwyd y gwaith adeiladu ym 1900, ond ni agorwyd tan Tachwedd 1902.
Bu Tom Nefyn Williams yn weinidog ar y Capel yn ystod y 1920au. Sefydlwyd Capel M.C. Saesneg o'r enw St David's (Forward Movement) yn Y Tymbl ym 1907, gan adeiladu Neuadd gyfleus wrth i'r achos gynyddu. Bu'r ddau gapel dros rhai cyfnodau yn rhannu gweinidog, y Mans a chostau eraill. Caewyd Capel Ebenezer, Y Tymbl, ym 1996. Yr oedd y Capel yn rhan o Ddosbarth Llanddarog, yn Henaduriaeth De Myrddin.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn dair cyfres: cofrestri, llyfrau cyfrifon, a llyfrau casgliadau wythnosol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Y Parch. D. Geraint Davies, Cofiadur Henaduriaeth De Myrddin, Caerfyrddin; Adnau; Awst 2004.0200409098

Note

Dechreuodd yr achos yn y Tymbl ym 1892, wedi i berchnogion y gwaith glo lleol gynnig tŷ, sef rhif 74, 'High Street', yn rhad ac am ddim i gynnal gwasanaethau crefyddol ynddo. Gyda'r brwdfrydedd yn tyfu o ran yr achos, penderfynwyd cael 'capel haiarn', a chafwyd tir yn rhan isaf 'High Street', Y Tymbl, gan yr Arglwydd Crawford ar brydles o 999 mlynedd. Yr oedd digon o le i adeiladu festri a fyddai'n dal oddeutu 200 i eistedd.
Cynyddodd yr eglwys yn gyflym rhwng y blynyddoedd 1898 a 1901, ac oherwydd hynny dechreuwyd siarad am adeiladu capel. Symudwyd y festri yn gorfforol yn nes i lawr, a phrynwyd hanner cyfer o dir i fod yn fynwent i'r eglwys gan y Parch. Richard Lloyd, Ficer Troedrhiw-yr-aur. Gorffennwyd y gwaith adeiladu ym 1900, ond ni agorwyd tan Tachwedd 1902.
Bu Tom Nefyn Williams yn weinidog ar y Capel yn ystod y 1920au. Sefydlwyd Capel M.C. Saesneg o'r enw St David's (Forward Movement) yn Y Tymbl ym 1907, gan adeiladu Neuadd gyfleus wrth i'r achos gynyddu. Bu'r ddau gapel dros rhai cyfnodau yn rhannu gweinidog, y Mans a chostau eraill. Caewyd Capel Ebenezer, Y Tymbl, ym 1996. Yr oedd y Capel yn rhan o Ddosbarth Llanddarog, yn Henaduriaeth De Myrddin.

Seiliwyd y teitl ar gynnwys yr archif.

Archivist's Note

Rhagfyr 2005.

Lluniwyd y catalog gan D. Rhys Davies. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: y Parch. James Morris, Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin (E. W. Evans, 1911); A Plea and a Protest (Caerdydd, 1928); Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 1996; a chronfa ddata CAPELI yn LlGC;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Mae'r casgliad wedi ei werthuso (gweler y manylion yn y disgrifiadau perthnasol).

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir adroddiadau blynyddol y Capel, 1912, 1923-1935 ac 1938, yng nghasgliad llyfrau printiedig LlGC, a 1944-1945 yng nghasgliad CMA. Ceir hefyd ffotograffau o'r capel yng Nghasgliad Rosser, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Aberystwyth. Mae cofnodion a chyfrifon, 1907-1948, capel St David's, Y Tymbl yn LlGC, CMA EZ1/95/1-7.

Additional Information

Published