Cofnodion Cymdeithas Cymru-Ariannin,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 CYMARIAN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004626529
  • Dates of Creation
    • 1931-1997/
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • English Welsh Spanish Saesneg, Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.1 metrau ciwbig (10 bocs).

Scope and Content

Papurau cyffredinol a gohebiaeth,1957-1976, yn cynnwys rheiny yn ymwneud ag ymweliad Kyffin Williams â Phatagonia ym 1968 ac ymweliadau gan eraill wedi hynny, gohebiaeth, 1968-1976, ynghylch trefniadau i fyfyrwyr o Batagonia fynychu Coleg Harlech, gohebiaeth weinyddol cyffredinol, 1958-1975, a thorion o'r wasg,1959-1976. Ceir hefyd llyfrau cofnodion a chofnodion rhydd, 1965-1997; llythyrau,1965-1980, yn ymwneud â chynnal eisteddfodau a gweithgaredd llenyddol Y Wladfa; deunydd ynghylch dathlu deucanmlwyddiant sefydlu'r Wladfa ym 1865; a phapurau amrywiol, 1931-1996, yn cynnwys cylchlythyrau ac adroddiadau blynyddol y gymdeithas = General papers and correspondence, 1957-1976, including some relating to Kyffin Williams's visit to Patagonia in 1968, and subsequent visits by others, correspondence, 1968-1976, relating to arrangements for students from Patagonia to attend Coleg Harlech, general administrative correspondence, 1958-1975, and press cuttings, 1959-1976. There are also minute books and loose minutes, 1965-1997; letters, 1965-1980, relating to applications for grants; papers, 1946-1980, relating to the holding of eisteddfodau and the literary activity of Y Wladfa; material concerning the celebration of the bi-centenary of the establishment of Y Wladfa in 1965; and miscellaneous papers, 1931-1996, including stray circulars and pamphlets and annual reports of the society.
Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru - Ariannin, gynt Cymdeithas Cymry Ariannin, yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion a phapurau eraill. Hefyd, caniatawyd y Llyfrgell i drosi'n rhodd y papurau a dderbyniwyd ar adnau yn y Llyfrgell yn 1976 a 1978 (gweler Adroddiad Blynyddol 1976-77, t. 66, a 1977-78, t.71) = Additional records of the Welsh Argentine Society ("Cymdeithas Cymru - Ariannin", formely "Cymdeithas Cymry Ariannin"), including correspondence, minutes and other papers. The Library has also been allowed to convert into a donation the papers placed on a deposit at the Library in 1976 and 1978 (see Annual Report 1976-77, p. 66, and 1977-78, p.71)
Papurau ychwanegol Cymdeithas Cymru - Ariannin, yn cynnwys cynnyrch a beirniadaeth cystadlaethol rhif 176 yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli a'r Cylch, 2000, i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes, a hefyd deunydd a grewyd ar gyfer "Cystadleuaeth y Wladfa" yn Eisteddfod Tŷ Ddewi, 2002.

Administrative / Biographical History

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymru-Ariannin ym 1939 gan bobl â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut, yr Ariannin, i fod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Mae'r Gymdeithas yn trefnu a noddi cyfnewid athrawon, myfyrwyr a gweinidogion yr efengyl rhwng Cymru a'r Ariannin. Mae'n noddi cystadleuaeth lenyddol flynyddol (yn y Gymraeg) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ers 1978. Yn ogystal mae'n noddi unrhyw fyfyriwr o'r Ariannin sydd am ddod i Gymru i ehangu gorwelion eu haddysg. Cafwyd cydweithredu agos â Choleg Harlech. Ymysg y sefydliadau a noddwyd yn y blynyddoedd diweddar mae Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a'r Ganolfan Gymraeg yn Esquel. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth a phapurau amrywiol; cofnodion; gohebiaeth, eisteddfodau a chynnyrch llenyddol Y Wladfa; dathlu deucanmlwyddiant Y Wladfa ym 1965; a phapurau amrywiol.

Access Information

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions noted on the 'Modern papers - data protection' form issued with their Readers' Tickets.
Mae'n ofynol cael caniatâd ysgrifenedig yr ysgrifennydd cyfredol cyn cael gweld y papurau.

Acquisition Information

Ceris Gruffudd; Aberystwyth; Rhodd; Rhagfyr 1976, Mai 1978 a Hydref 1999

Note

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymru-Ariannin ym 1939 gan bobl â chysylltiad â'r Wladfa Gymreig yn Chubut, yr Ariannin, i fod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Mae'r Gymdeithas yn trefnu a noddi cyfnewid athrawon, myfyrwyr a gweinidogion yr efengyl rhwng Cymru a'r Ariannin. Mae'n noddi cystadleuaeth lenyddol flynyddol (yn y Gymraeg) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ers 1978. Yn ogystal mae'n noddi unrhyw fyfyriwr o'r Ariannin sydd am ddod i Gymru i ehangu gorwelion eu haddysg. Cafwyd cydweithredu agos â Choleg Harlech. Ymysg y sefydliadau a noddwyd yn y blynyddoedd diweddar mae Ysgol Gymraeg Trelew, Ysgol Feithrin y Gaiman a'r Ganolfan Gymraeg yn Esquel. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Nid yw pob eitem wedi cael ei chatalogio eto.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Mân Restri a Chrynodebau, 2000,tt. 6-9. Gellir cael mynegiad i'r catalog ar lein. Ni restrwyd y grwpiau diweddarach hyd yn hyn.

Archivist's Note

Mehefin 2006.

Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 2000, tt. 6-9; gwefan Cymdeithas Cymru-Ariannin, edrychwyd 26 Mehefin 2006;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Mae ychwanegiadau yn debygol.

Additional Information

Published