Papurau W. Berllanydd Owen

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BERWEN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844602
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1929-1984
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.144 metrau ciwbig (8 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau Berllanydd, [1929]-1984, yn cynnwys dyddiaduron, 1929-1933,1935-1970, 1982-1984, papurau personol yn cynnwys copïau o'i ewyllys,1981,nodiadau ar gyfer pregethau, anerchiadau crefyddol a gwaith bugeiliol, barddoniaeth a deunydd eisteddfodol, torion papur newydd a deunydd printiedig. = Papers of Berllanydd, [1929]-1984, comprising diaries, 1929-1933, 1935-1970, 1982-1984, personal papers including copies of his will, 1981, notes for sermons, religious addresses and pastoral work, poetry and eisteddfod material, newspaper cuttings and printed material.

Administrative / Biographical History

Yr oedd William Berllanydd Owen ('Berllanydd', 1899-1984) yn weinidog gyda'r Annibynwyr a bardd. Fe'i ganed yn Y Berllan, Darowen, sir Drefaldwyn, a chafodd ei addysg yn Narowen, yn Ysgol Ramadeg Cei Newydd, sir Aberteifi, a'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Bu'n weinidog ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin, ac yn ddiweddarach yn Hen Golwyn, sir Ddinbych. Yn fardd, enillodd wobrau am ei englynion a'i sonedau. Cyhoeddwyd ei waith mewn amrywiol gyfnodolion Cymraeg ac yn y gyfrol Awen Sir Ddinbych (Llandybïe,1964).

Arrangement

Trefnwyd yn ddyddiaduron; papurau personol; barddoniaeth a deunydd eisteddfodol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

W. Berllanydd Owen; Hen Golwyn; Rhodd; 1984

Note

Yr oedd William Berllanydd Owen ('Berllanydd', 1899-1984) yn weinidog gyda'r Annibynwyr a bardd. Fe'i ganed yn Y Berllan, Darowen, sir Drefaldwyn, a chafodd ei addysg yn Narowen, yn Ysgol Ramadeg Cei Newydd, sir Aberteifi, a'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Bu'n weinidog ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin, ac yn ddiweddarach yn Hen Golwyn, sir Ddinbych. Yn fardd, enillodd wobrau am ei englynion a'i sonedau. Cyhoeddwyd ei waith mewn amrywiol gyfnodolion Cymraeg ac yn y gyfrol Awen Sir Ddinbych (Llandybïe,1964).

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau, 1984, t. 44, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003.

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd yn gymynrodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published