LLYFR: Atgofion John Parry, 4 Trearddur Square, Holyhead, morwr. Ganwyd ym Mangor yn 1852 a mynychwyd yr ysgol Frytanaidd yn Llangefni.
Hefyd copiau o lun ohono efo babi, trawysgrif a chyfieithiad ohonynt a rhan o 'Ships and Seamen of Anglesey' gan Aled Eames' amdanynt.
Ymfudodd John Parry a`i deulu i Fangor, Pennsylvania ond bu farw ei fam yno o fewn dwy flynedd ac fe ddychwelwyd y teulu i Fôn.Fe ddisgrifir ei blentyndod mewn ardal wledig ac fe enwir perthynasau, ffermydd a`r capel.
Mae`r atgofion yn creu darlun byw o fywyd morwr ifanc ac yn enwi y llongau, y capteniaid ac ambell aelod o`r criw ynghyd â`r cyflogau, y gwahanol nwyddau a gludwyd a hefyd sylwadau ar rhai o`r porthladdoedd. Fe sylwir ar ambell ddigwyddiad e.e. eliffantod yn yr India yn symud coed ac ar ddigwyddiadau cendlaethol fel rheolau newydd y Bwrdd Masnach ynglyn â goleuadau ar longau a digwyddiadau rhyngwladol fel y rhyfel rhwng Ffrainc a Prussia yn 1870.