• Reference
    • GB 210 NLW MS 14579A.
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004440016
  • Dates of Creation
    • 1730-1733
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg.
  • Physical Description
    • 154 ff. (tudalenwyd 3-312; dalen ar goll ar ddechrau'r gyfrol) ; 160 x 105 mm.
      Rhwymiad lledr llawn, peth difrod i'r clawr ôl a'r meingefn, a phedwar band ar draws y meingefn; ceir paneli o addurniadau plaen ar y cloriau blaen ac ôl, ynghyd â gweddillion clymau lledr gyda staplau metel.
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Casgliad o naw deg dau o halsingod o ardal Llandysul, Dyffryn Teifi, wedi eu copïo gan John Evan rhwng 1730 a 1733. Cyfansoddwyd y mwyafrif o'r halsingod rhwng 1654 a 1722 gydag ychydig o enghreifftiau cyfoes ar ddiwedd y gyfrol. = A collection of ninety-two carols of a religious or moral nature ('halsingod') from the Llandysul, Teifi Valley, area, transcribed by John Evan between 1730 and 1733. The majority of the poems were composed between 1654 and 1722 with a few contemporary examples included at the end of the volume.
Priodolir y cerddi i'r awduron canlynol: David Davies [?ficer Bridell, sir Benfro], James Richard, David Lewis [?Llanllawddog], Sampson Lloyd, Evan Griffith, Syr John Owen, David Jones, David Evanes [sic], John Hughes, John Evan, a'r 'hen Glark Einion' (ceir cyfeiriadau at rai o'r unigolion hyn, ynghyd â rhestr o halsingod eraill a gyfansoddwyd ganddynt, yn Geraint Bowen, 'Yr Halsingod', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, (1945), 83-108). = The poems are attributed to the following authors: David Davies [?vicar of Bridell, Pembrokeshire], James Richard, David Lewis [?Llanllawddog], Sampson Lloyd, Evan Griffith, Sir John Owen, David Jones, David Evanes [sic], John Hughes, John Evan, and 'yr hen Glark Einion' (references to some of these individuals, together with a list of other 'halsingod' composed by them, are in Geraint Bowen, 'Yr Halsingod', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, (1945), 83-108).

Access Information

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Y Canon a Mrs B. L. Spurgin; Llanddowror; Pryniad; Medi 1977.

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Preferred citation: NLW MS 14579A.

Archivist's Note

Mehefin 2006.

Lluniwyd y disgrifiad gwreiddiol gan Dafydd Ifans; addaswyd gan Alwyn J. Roberts.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Custodial History

Mae llofnod Thomas Griffiths a David Griffiths yn ymddangos ar nifer o dudalennau, gan gynnwys: 'Thomas Griffiths Goylanfelen Court Llangeler' a '1824 agd. 19 years' (tt. 178-9), 'Thomas Griffiths 1832' (t. 213)', David Griffiths Groesffordd 1844 his Book' (t. 69), 'David Griffiths Groesffordd Llanfihangel Yeroth' (t. 128); hefyd, 'Henry Charles' (tt. 283, 289).

Additional Information

Published