LLYFR NODIADAU: William Owen Jones, Mona Brewery, Llanfachraeth yn cynnwys barddoniaeth amrywiol yn dwyn y teitlau "Cerdd a yrodd yr awdur at ei gyfaill Mr. Gruffudd Jones, Cleifiog i ofyn hanner peg o haidd yn echwyn" - parlwr Llanfachraeth A. H. Hir, Gorphenaf 2, 1823; "Can o ddiolchgarwch tenantiad Mr. Holland Gruffudd ysw., Gareglwyd am gael ei gwahawdd iw anedd i dalu ei hardraeth yn lle Llanerchymedd a ganwyd gan Edward Owen y Bedo yn nglyw Mr. Gruffudd ai deulu Ion 27, 1825, Ton dydd Llun y borau; "Marwnad y diweddar Mr. Rhisird Ifans gynt o Gil - y - Maenan, Llanfaethlu, Mon, yr hwn a fu farw Awst 24, 1851 yn 79 mlwydd oed"; englyn "a ganly[n] a gyfansoddodd yr awdur pan ydoedd wedi brifio ei ysgwydd;" "Coffadwriaeth am Mary merch W. Defis Penralld, Llanfachraeth, yr hon a fu farw yu un o ynysoedd India Orllewinol yn y flwyddyn 1844 yn 22 oed" (cenir ar y don Fechan); "Englynion ar fuddugoliaeth China"; "Can o hanes lleidr a ddygoedd gant ag unarddeg o bunau oddiar drafeiliwr yn Nghaergybi yr hwn ar ol ei ddal a daflodd ei hun dros bont Lasinwan fel y boddodd at y 11 Rag, 1827"; "Penillion a sefydliad y Gwir Iforiad yn Llanfachraeth, Mon; "Can o hanes Eeias a propwydi Baal ar ben mynydd Carmel wedi eu chymryd allan o lyfr cyntaf Brenhinoedd XVIII benod"; "Marwnad Lady Stanley Penros yr hon a fu farw yn y flwyddyn 1816"; "Can deuddeg mis y flwyddyn"; "Can y gog"; "Can a wnaeth yr adur I ofyn dreas ceffyl dros ei frawd John Owen"; "Pennill o'r Bythiadagi"; "Can yr ysgol Sabbothol"; "Dau benill I wydr dywydd Henry Riva, Llangefni ei wneuthurwr", "Coffadwriaeth am y Cadben James yr hwn a fu farw yn Affrica porthladd ar yr afon Bony"; "Ymddiddan rhwng y tad ar mab yn yr America"; "Cwyfan ar ol madal a mabolaeth - testun eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl, Mehefin 17 1840"; "Can ar fuddioldeb yr argraffwasg - testyn eisteddfod Bryngwran - Mai 5, 1842"; "Cywydd yr adgyfodiad"; "Englynion i Adda cyn y cwymp"; "Eraill I Adda wedi'r cwymp"; "Pryddest ar y prophwyd Samuel - testyn eisteddfod Llanfachraeth Mon"; "Can y rhoddi hanes Moses yr hwn a guddiwyd yn y cawell ar fin yr afon"; "Can a yrodd y bardd i ofyn yspectol gan y Cymrodorion, Llundain yn y flwyddyn 1829"; "Priodasgerdd Mr. Owain Jones, Aberalaw, Llanfachraeth. "Can a yrodd y bardd I ofyn gwellt i doi'r ty gan Lady Stanley yn y flwyddyn 1806"; "Can a yrodd y bardd I Mr. Holland Gruffudd, Gareglwyd I ofyn pen ar y sgubor"; "Dau benill ir ceiliogwydd"; "Marwnad y diweddar rasusaf frenin Sior y 3dd yr hwn a hunodd mewn heddwch ar y 29o Ionawr 1820 yn 82 mlwydd oi oedran"; - "Marwnad y Parch Christmas Ifans gweinidog y bedyddwyr yng Nghaernarfon yr hwn a fu farw Gorffenaf 19, 1838"; "Penillion i London House, Caergybi, masnachdy Mr. John Lewis"; "Can ar ymadawiad Owen Owens y crydd pan oedd e'n mynd i fyw i Lanerchymedd"; "Can a yrodd y bardd i ofyn bonbren cydio gan arddwr Mr. Holland Gruffudd, yswain, Gareglwyd"; "Tri phenill ir ty o bridd sef y corph a gyfansoddyd gan y bardd iddo ei hun"; "Marwnad er coffadwriaeth am y diweddar J. M. Skinner ysw., Cadben yr Ager - long Escape yng wasanaeth ei fawrhydi o Gaergybi I'r Iwerddon yr hwn gipwyd oddiar ei bwrdd gan foryn dychrynllyd yn nghyd a Wm. Morris, is - lwydd ar ysoain o Hydref 1832"; "Marwnad tywysog Cymru"; "Sylw ar ddoethineb"; "Englyn I Owen Jones, Llanfachraeth pan oedd ar gychwyn I Eisteddfod Rhuddlan"; "Pill a wnaeth yr A. H. Hir pan wedi ffeirio ceffyl gydag Ifan Llanfaelog"; "Englyn ir Cristion Buddugol yn Eisteddfod Bodedern gan Ael Haiarn Hir"; hefyd cynnwys a nodiadau ar achau Spencer Buckley Wynn, barwn Newborough, Charles Morgan Robinson, arglwydd Tredegar; a Syr Watkin Williams Wynn, barwnig o Wynnstay. [Y mwyafrif o 'r barddoniaeth gan 'Ael Haearn Hir' sef Richard Owen, Parlwr Llanfachraeth.]
Llyfr Nodiadau: William Owen Jones, Mona Brewery, Llanfachraeth
This material is held atArchifau Ynys Môn / Anglesey Archives
- Reference
- GB 221 WM513
- Alternative Id.GB 221 WM/513
- Dates of Creation
- [1859]
- Name of Creator
- Language of Material
- English
- Physical Description
- 1 item
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Mae Bragdy Mona wedi'i leoli yn Llanfachraeth ar arfordir gogledd-orllewin Ynys Môn, tua thair milltir o'r ffordd A5 i Gaergybi. Y cyfeiriad cynharaf at y Bragdy yw bedydd 1836 yng nghofnodion y Methodistiaid Calfinaidd. Mae Thomas Williams, tad Mary, yn bragwr ym Mragdy Llanfachraeth. Cynhyrchu a pherchnogaeth yn nwylo'r teulu Jones am y rhan fwyaf o'r cyfnod 1836 - 1895 Rhestrir John Jones yn y cyfrifiad fel bragwr, ynghyd â'i wraig Margaret, y ddau o Amlwch. Erbyn 1861 mae John Jones yn dal i gael ei restru fel y maltster a bragwr, ynghyd â'i wraig, tair merch a dau fab. Pan agorodd Ysgol Fwrdd Llanfachraeth ym mis Mawrth 1876, rhoddodd Mrs Margaret Jones or bragdy rodd o £ 710. Daeth marwolaeth John Jones ym mis Rhagfyr 1870 i gynrychiolir trothwy anffodus am sefydlogrwydd y bragdy ac o ganlyniad y teulu. Ym 1880 rhestrwyd Albert Allinson, y Sais, fel Rheolwr Gyfarwyddwr. Margaret Jones oedd y bragwr o hyd, yn gweithio gyda theithiwr a rheolwr. Cyflogwyd mab arall fel garddwr. Bu'n rhedeg y bragdy am 12 mlynedd ar ôl marwolaeth John ond ym 1882 fe ffeiliodd am fethdaliad. Bu farw Margaret Jones ym mis Awst 1882 yn 63 mlwydd oed. Bu rhywfaint o barhad o'r cynhyrchiad ar ôl ei marwolaeth. Ym 1888 cymerwyd y busnes drosodd gan D. Williams & Co., priododd merch hynaf John Jones, Sarah, â David Williams ac am gyfnod byr, maent yn rhannu'r Mona Stores, siop adwerthu i'r Bragdy. Ymddengys na chafodd unrhyw gwrw ei fragu ar ôl 1895. Ym 1900 digwyddodd yr ocsiwn a gwerthwyd y bragdy. Roedd telerau'r gwerthiant yn cynnwys cynlluniau a oedd i drosi'r adeiladau'n ddefnydd fferm, ac ni nodwyd y byddai bragu pellach yn digwydd.
Arrangement
By deposit
Access Information
Dim cyfyngiadau/ No Restrictions
Acquisition Information
Adnau preifat / Private deposit.
Note
Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)
Other Finding Aids
Mae copiau clawr caled o`r catalogau ar gael yn Archifau Ynys Môn ac yn y Gofrestr Cenedlaethol Archifau. Polisi Archifau Ynys Môn yw catalogio yn iaith y ddogfen./Hard copies of the catalogue are available at Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives and the National Register of Archives. It is the policy of Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives to catalogue in the language of the document.
Physical Characteristics and/or Technical Requirements
Cyflwr da /Good condition
Archivist's Note
Lluniwyd y disgrifiad gan Amanda Sweet, Archifau Ynys Môn / Anglesey Archives
http://www.breweryhistory.com/journal/archive/142/Mona.pdf
Appraisal Information
Mae'r holl gofnodiadau sy'n cydymffurfio â pholisi casglu Swyddfa Gofnodi Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cadw /All records which meet the collection policy of the Anglesey Archives have been retained.
Accruals
Ni ddisgwylir croniadau/Accruals are not expected