Barddoniaeth amrywiol,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Scope and Content

Barddoniaeth o'r ail ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys gweithiau gan Alan Llwyd (f. 2), W. J. Gruffydd (f. 14), Richard Davies (Mynyddog) (f. 76), Ray Howard-Jones (ff. 98-104), R. Williams Parry (ff. 106-110), Saunders Lewis (ff. 132-136), Vernon Watkins (f. 146), Harri Webb (ff. 153-154), Katherine Philips (The Matchless Orinda) (f. 158), ac Euros Bowen (ff. 161-169), ynghyd â nifer o feirdd llai enwog a rhai darnau anhysbys. Cynigiwyd rai o'r cerddi mewn cystadlaethau eisteddfodol (ff. 36-51, 53-61, 63, 113-124). Mae nifer o'r cerddi yn llaw y beirdd eu hunain, eraill yn gopïau neu mewn teipysgrif. Ceir hefyd garol plygain, a nodwyd i lawr [?19 gan., ¼ olaf] (ff. 155-157 verso), a llythyr, 1994, oddi wrth Jon Meirion Jones at Dafydd Ifans yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymwneud â Dafydd Jones (Isfoel) y Cilie (ff. 149-150). = Poetry, seventeenth to twentieth centuries, including works by Alan Llwyd (f. 2), W. J. Gruffydd (f. 14), Richard Davies (Mynyddog) (f. 76), Ray Howard-Jones (ff. 98-104), R. Williams Parry (ff. 106-110), Saunders Lewis (ff. 132-136), Vernon Watkins (f. 146), Harri Webb (ff. 153-154), Katherine Philips (The Matchless Orinda) (f. 158), and Euros Bowen (ff. 161-169), together with many lesser-known poets and some anonymous pieces. Some of the poems were submitted for competition at eisteddfodau (ff. 36-51, 53-61, 63, 113-124). Many of the poems are autograph while others are copies or in typescript. Also included is a plygain carol, noted down [?19 cent., last ¼] (ff. 155-157 verso), and a letter, 1994, from Jon Meirion Jones to Dafydd Ifans at the National Library of Wales regarding Dafydd Jones (Isfoel), Cilie (ff. 149-150).

Administrative / Biographical History

Yr oedd William John Gruffydd (1881-1954) yn fardd, dramodydd, ysgolhaig, golygydd a beirniad. Cafodd ei fagu yng Ngorffwysfa, Bethel, sir Gaernarfon, a mynyddodd Ysgol Sir Caernarfon, ac astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn ddiweddarach yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yn 1904 fe'i penodwyd yn athro yn Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yn 1906 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Celteg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl gwasanaethu fel swyddog yn y llynges, 1915-1918, fe'i penodwyd yn Athro Ieithoedd Celtaidd yng Nghaerdydd ac arhosodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1946. Prif faes ei ymchwil oedd Pedair Cainc y Mabinogi, a bu hefyd yn olygydd y cylchgrawn chwarterol Y Llenor, 1922-1951; ysgrifennodd tair drama, a chyfieithodd Antigone gan Sophocles i'r Gymraeg. Bu'n ymgeisydd seneddol fel Rhyddfrydwr yn 1943, gan gystadlu yn erbyn Saunders Lewis am sedd Prifysgol Cymru, er gwaethaf y ffaith ei fod yn aelod blaenllaw <sup>TM</sup>r Cenedlaetholwyr Cymreig. Priododd a chael un mab.

Yr oedd Robert William Parry (1884-1956), bardd a darlithydd o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle. sir Gaernarfon, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn symud i Fangor ac astudio dan John Morris-Jones, gan raddio yn 1908. Yn 1910 enillodd ei awdl 'Yr Haf' Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn. Bu'n athro yn y Barri, Morgannwg, ac wedyn yng Nghaerdydd. Rhwng 1916 a 1918 bu'n gwasanaethu yn y fyddin; ysbrydolwyd ef i lunio llawer soned ynghyd â'i englynion er cof am Hedd Wyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1922 cafodd ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor, sir Gaernarfon, a symudodd i Fethesda, sir Gaernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, 'Yr Haf a Cherddi eraill', yn 1924, gan sicrhau iddo'r bri o fod yn fardd mawr. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o gerddi, 'Cerddi'r Gaeaf' yn 1952. Priododd Myfanwy Williams Parry (1898-1971) yn 1923.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Ffynonellau amrywiol, rhai'n anhysbys; Rhoddion a phryniadau; 1981-1997

Note

Yr oedd William John Gruffydd (1881-1954) yn fardd, dramodydd, ysgolhaig, golygydd a beirniad. Cafodd ei fagu yng Ngorffwysfa, Bethel, sir Gaernarfon, a mynyddodd Ysgol Sir Caernarfon, ac astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn ddiweddarach yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yn 1904 fe'i penodwyd yn athro yn Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yn 1906 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Celteg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl gwasanaethu fel swyddog yn y llynges, 1915-1918, fe'i penodwyd yn Athro Ieithoedd Celtaidd yng Nghaerdydd ac arhosodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1946. Prif faes ei ymchwil oedd Pedair Cainc y Mabinogi, a bu hefyd yn olygydd y cylchgrawn chwarterol Y Llenor, 1922-1951; ysgrifennodd tair drama, a chyfieithodd Antigone gan Sophocles i'r Gymraeg. Bu'n ymgeisydd seneddol fel Rhyddfrydwr yn 1943, gan gystadlu yn erbyn Saunders Lewis am sedd Prifysgol Cymru, er gwaethaf y ffaith ei fod yn aelod blaenllaw <sup>TM</sup>r Cenedlaetholwyr Cymreig. Priododd a chael un mab.

Yr oedd Robert William Parry (1884-1956), bardd a darlithydd o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle. sir Gaernarfon, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn symud i Fangor ac astudio dan John Morris-Jones, gan raddio yn 1908. Yn 1910 enillodd ei awdl 'Yr Haf' Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn. Bu'n athro yn y Barri, Morgannwg, ac wedyn yng Nghaerdydd. Rhwng 1916 a 1918 bu'n gwasanaethu yn y fyddin; ysbrydolwyd ef i lunio llawer soned ynghyd â'i englynion er cof am Hedd Wyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1922 cafodd ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor, sir Gaernarfon, a symudodd i Fethesda, sir Gaernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, 'Yr Haf a Cherddi eraill', yn 1924, gan sicrhau iddo'r bri o fod yn fardd mawr. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o gerddi, 'Cerddi'r Gaeaf' yn 1952. Priododd Myfanwy Williams Parry (1898-1971) yn 1923.

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Gweddillion sêl, f. 126; dyfrnod, f. 159.

Preferred citation: NLW MS 21702E.

Archivist's Note

Ebrill 2008.

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifans;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Related Material

Gweler hefyd yr atodiad i'r llawysgrif hon, sef carol gan Gwen Pugh, Dolgellau, a ymddengys ar ff. 176-177 verso.

Bibliography

Am 'Isfoel' a theulu'r Cilie, gweler Jon Meirion Jones, Teulu'r Cilie (Cyhoeddiadau Barddas, 1999).

Additional Information

Published

Personal Names