Llawysgrifau a chopïau teipysgrif o gerddi Gwenallt, 1922-[1968], yn cynnwys 'Mynach','Ynys Enlli', a cherddi eraill a gyhoeddwyd; sgriptiau, dramâu ac anerchiad, yn bennaf ar gyfer y radio,1947-1952; llyfrau, nodiadau rhydd a phenawdau'n cynnwys nodiadau a gopïwyd o lyfrau ac erthyglau wedi eu paratoi ar gyfer darlithoedd, sgyrsiau, anerchiadau, gweithiau cyhoeddedig ac ysgolion, 1913-1958; llythyrau, at Gwenallt yn bennaf, a rhai at ei weddw, 1926-1970; deunydd yn ymwneud â'i gofiant i Idwal Jones (1958) yn cynnwys llyfrau nodiadau a chopïau drafft o ran o'r llyfr yn ogystal â chaneuon, cerddi a pharodïau gan Jones, 1922-[1958]; a llyfr cofnodion,1929-1933, 'Cymdeithas yr Hwrddod' a ffurfiwyd gan Gwenallt ac Idwal Jones yn Aberystwyth. Derbyniwyd cyfrol o gerddi cynnar, heb eu cyhoeddi, a hefyd cyfrol o nodiadau llawysgrif, Medi 2013 a llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau o lyfrau Saesneg a drafftiau o gerddi cyhoeddedig gan Gwenallt yn Gymraeg yn Nhachwedd 2015. = Manuscripts and typescripts of poetry by Gwenallt, 1922-[1968], including 'Y Mynach', 'Ynys Enlli' and other published poems; scripts, dramas and an address, mostly written for radio, 1947-1952; notebooks, loose notes and headings containing notes copied from books and articles in preparation for lectures, talks, addresses, published works and for school, 1913-1958; letters, mostly to Gwenallt, with some to his widow, 1926-1970; material relating to his biography of Idwal Jones (1958) including notebooks and drafts of parts of the book as well as songs, poems and parodies written by Jones, 1922-[1958]; and a minute book, 1929-1933, of 'Cymdeithas yr Hwrddod', formed by Gwenallt and Idwal Jones at Aberystwyth. A further volume of early poetry in Gwenallt's hand, not published, and a volume of manuscript notes were received, September 2013; and a notebook containing quotes from English books and drafts of published poems by Gwenallt in Welsh was donated in November 2015 .
Papurau Gwenallt
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 GWELLT
- Alternative Id.(alternative) vtls003844181(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1913-1970
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg.
- Physical Description
- 0.152 metrau ciwbig (6 bocs)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Yr oedd David James Jones ('Gwenallt',1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).
Arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: barddoniaeth Gwenallt; cofiant Idwal Jones; sgriptiau radio a dramâu; nodiadau; gohebiaeth; amrywiol.; rhodd Medi 2013 a rhodd Tachwedd 2015.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Rhodd gan Mrs Nel Gwenallt, gweddw Gwenallt, Aberystwyth, 1973, 1999, 2001
Rhodd gan Mr John Meredith, Bangor, Medi 2013
Rhodd gan Mr John Meredith, Bangor, Tachwedd 2015 a Hydref 2016
Note
Yr oedd David James Jones ('Gwenallt',1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae rhai eitemau megis llythyrau o gydymdeimlad yn dyddio ar ôl ei farw.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Archivist's Note
Chwefror 2003.
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Gwenallt; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986);
Conditions Governing Use
Mae'r hawlfraint ar bapurau Gwenallt yn eiddo i'w ferch Mrs Mair Powell.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published