Llawysgrifau Cybi

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 MSCYBI
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls006820910
  • Dates of Creation
    • [c. 1906]-1925
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg.
  • Physical Description
    • 4 cyfrol.

Scope and Content

Llawysgrifau Cybi, [c. 1906]-1925, yn cynnwys hunangofiant, 1925; a chyfrolau o dorion o'i golofnau newyddiadurol, [c. 1906]-1921. = Manuscripts of Cybi, [c. 1906]-1925, comprising an autobiographical composition, 1925; and volumes of press cuttings of his newspaper columns, [c. 1906]-1921.

Administrative / Biographical History

Roedd Robert Evans (Cybi, 1871-1956), bardd, llenor a llyfrwerthwr, yn frodor o Langybi, sir Gaernarfon. Ganwyd ef 27 Tachwedd 1871, yn fab i Thomas a Mary Evans. Cafodd ei addysg yn ysgol y cyngor, Llangybi, ac aeth i weithio mewn ffermydd lleol am gyfnod, cyn dod yn bostman a gwerthwr llyfrau. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth, a gyhoeddwyd yn Odlau Eifion (Pwllheli, 1908), Awdl Bwlch Aber Glaslyn (Pwllheli, 1910), a Gwaith Barddonol Cybi (Pwllheli, 1912), a chystadlodd yn rheolaidd mewn eisteddfodau. Cyhoeddodd hefyd gasgliadau o waith beirdd Eifionydd a llyfrau ar hanes lleol, yn ogystal â'i golofnau papur newydd. Bu farw yn Llangybi ar 16 Hydref 1956.

Arrangement

Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 16613-16.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Mr J. R. Morris, llyfrwerthwr; Caernarfon; Pryniad; Tachwedd 1956

Note

Roedd Robert Evans (Cybi, 1871-1956), bardd, llenor a llyfrwerthwr, yn frodor o Langybi, sir Gaernarfon. Ganwyd ef 27 Tachwedd 1871, yn fab i Thomas a Mary Evans. Cafodd ei addysg yn ysgol y cyngor, Llangybi, ac aeth i weithio mewn ffermydd lleol am gyfnod, cyn dod yn bostman a gwerthwr llyfrau. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth, a gyhoeddwyd yn Odlau Eifion (Pwllheli, 1908), Awdl Bwlch Aber Glaslyn (Pwllheli, 1910), a Gwaith Barddonol Cybi (Pwllheli, 1912), a chystadlodd yn rheolaidd mewn eisteddfodau. Cyhoeddodd hefyd gasgliadau o waith beirdd Eifionydd a llyfrau ar hanes lleol, yn ogystal â'i golofnau papur newydd. Bu farw yn Llangybi ar 16 Hydref 1956.

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Archivist's Note

Chwefror 2015.

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones. Defnyddiwyd y ffynhonnell canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970 (Llundain, 1997);

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Related Material

Gweler hefyd NLW MS 13702C.

Additional Information

Published