Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 CYMIAITHMORGWE
  • Alternative Id.
      (alternative) 99747440502419
  • Dates of Creation
    • 1984-2007
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg a Saesneg
  • Physical Description
    • 0.306 metrau ciwbig (34 ffeil)

Scope and Content

Papurau, 1984-2007, Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ranbarth Morgannwg Gwent, yn cynnwys gohebiaeth, datganiadau i’r wasg, nodiadau, a thorion o’r wasg, yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg fewn siopau, busnesau, a chwmniau preifat yn ardal Morgannwg Gwent. Mae rhan fwyaf o’r papurau yn deillio o Gell Caerdydd y Gymdeithas.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 i hybu defnydd y Gymraeg. Fe'i trefnir yn gelloedd lleol. Sefydlwyd celloedd yng Nghaerdydd ac ym Mlaenau Morgannwg yn 1964, ac mae'r celloedd yma dal yn weithredol o dan Ranbarth Morgannwg Gwent.

Arrangement

Trefnwyd yn bedair gyfres: Siopau preifat; Banciau & chymdeithasau adeiladu; Bwytai; a Sefydliadau Corfforaethol a Chyhoeddus eraill.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Colin Nosworthy; Caerdydd; Rhodd Chwefror 2017

Note

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 i hybu defnydd y Gymraeg. Fe'i trefnir yn gelloedd lleol. Sefydlwyd celloedd yng Nghaerdydd ac ym Mlaenau Morgannwg yn 1964, ac mae'r celloedd yma dal yn weithredol o dan Ranbarth Morgannwg Gwent.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Archivist's Note

Ionawr 2018

Lluniwyd y disgrifiad hwn gan Lucie Hobson. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: papurau o fewn yr archif; prif archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, LLGC; Phillips, Dylan, Trwy ddulliau chwyldro?: hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962-1992 (Llandysul, 1998).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Cadwyd yr holl cofnodion a rhoddwyd i’r Llyfrgell.

Accruals

Disgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Prif archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw LLGC, Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; gweler hefyd LLGC, Papurau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Ceredigion; ac LLGC, Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Cell Casnewydd).

Additional Information

Published

Draft