Mae'r fonds yn cynnwys ei lawysgrifau llenyddol; gohebiaeth bersonol, [?1903]-1992; papurau'n ymwneud â'i deulu, yn enwedig ei ewythr R. Silyn Roberts, [?1847]-[?1986]; papurau'n gysylltiedig â'i waith fel golygydd cynorthwyol Y Faner, 1949-1992; ynghyd â nodiadau a darlithoedd a baratowyd ganddo ar gyfer dosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.
Papurau Mathonwy Hughes
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 MATHES
- Alternative Id.(alternative) vtls004170945(alternative) (WlAbNL)0000170945
- Dates of Creation
- [?1847]-[?1999] (crynhowyd [1920au]-1999)
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh Cymraeg
- Physical Description
- 0.218 metrau ciwbig (15 bocs)
Scope and Content
Arrangement
Trefnwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn bump grŵp: papurau personol, [?1862]-1995; papurau llenyddol, [?1915]-[?1999]; papurau yn ymwneud â'r Faner, [1949]-1992; papurau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991, a phapurau teuluol, [?1847]-[?1986].
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Rhodd gan Mr a Mrs Berwyn Roberts, Dinbych, ysgutorion Mathonwy Hughes, 4 Ebrill 2000.; A2000/23
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC, Archifdy Sir Ddinbych a Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor.
Archivist's Note
Mehefin 2000.
Lluniwyd gan Rhian Phillips.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Ysgrifau Coffa 1999 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000), tt. 56-59.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd y cyfan o bapurau Mathonwy Hughes a roddwyd i'r Llyfrgell..
Custodial History
Wedi ei farwolaeth ym mis Mai 1999 aeth y rhoddwyr trwy ei bapurau cyn eu trosglwyddo i'r Llyfrgell. Credir bod rhai papurau wedi eu difa.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published