Cofrestr bedyddiadau, 1911-1960, a chyfrol o gofnodion, 1915-1992, Capel Gibea, Cwmgwili.
Cofysgrifau yn perthyn i Eglwys Gibea (MC), Cwmgwili, 1897-1977, yn cynnwys taflen cyfarfod dathlu hanner canmlynedd; llyfrau aelodaeth; llyfrau casgliad tuag at y Weinidogaeth; derbyniadau a thaliadau; cofrestr y Gymdeithas Ddirwestol; llyfrau cyfraniadau at wahanol gasgliadau'r eglwys; llyfr taliadau; llyfrau'r Ysgol Sul; ac ystadegau'r eglwys. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.
Cofysgrifau ychwanegol Capel Gibea, Cwmgwili, sef llyfr cyfrifon, 1958-1976.
CMA: Cofysgrifau Capel Gibea, Cwmgwili
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 GIBCWM
- Alternative Id.(alternative) vtls004304447(alternative) (WlAbNL)0000304447
- Dates of Creation
- 1911-1992
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg
- Physical Description
- 0.009 metrau ciwbig (1 bocs); 2 focs mawr (Adnau Mawrth 2006); 1 bocs bach (Adnau Mai 2015)Mae'r cyfrolau wedi'u heffeithio gan leithder (fe'u glanhawyd yn LLGC).
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Adeiladwyd capel Gibea, Cwmgwili, yn 1899, yn gangen i gapel yr Hendre, Llandybïe.
Cychwynnwyd yr Ysgol Sul yn yr ardal, 31 Ionawr 1897, mewn llofft stabl o eiddo Mr a Mrs Anthony, Brynrodyn. Ymhen tua blwyddyn a hanner aeth y llofft yn rhy fychan, a chafwyd darn o dir yn rhad ac am ddim gan Mr Rees Jones, Tanyfan, i adeiladu ysgoldy. Codwyd yr adeilad yn 1899 ar gyfer tua cant ac ugain o gynulleidfa.
Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth yr Hendre, Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Mae'r achos bellach wedi dod i ben.
Arrangement
Trefnwyd yn ddwy ffeil: cofrestr bedyddiadau a chofnodion eglwysig.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Adneuwyd gan y Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, Medi 2003 a Mawrth 2006.; 0200310926
Parch. D. Geraint Davies; Caerfyrddin; Adnau; Mai 2015; 4304447.
Note
Adeiladwyd capel Gibea, Cwmgwili, yn 1899, yn gangen i gapel yr Hendre, Llandybïe.
Cychwynnwyd yr Ysgol Sul yn yr ardal, 31 Ionawr 1897, mewn llofft stabl o eiddo Mr a Mrs Anthony, Brynrodyn. Ymhen tua blwyddyn a hanner aeth y llofft yn rhy fychan, a chafwyd darn o dir yn rhad ac am ddim gan Mr Rees Jones, Tanyfan, i adeiladu ysgoldy. Codwyd yr adeilad yn 1899 ar gyfer tua cant ac ugain o gynulleidfa.
Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth yr Hendre, Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Mae'r achos bellach wedi dod i ben.
Crewyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC, 2001-.
Alternative Form Available
Text
Archivist's Note
Medi 2005
Lluniwyd gan Barbara Davies.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Roberts, Gomer M., Hanes plwyf Llandybïe (Caerdydd, 1939); Davies, W. M., Hanes cychwyniad a chynydd y trefnyddion Calfinaidd yn Nosbarth yr Hendre (Llanelli, 1908).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published