Capel yr Annibynwyr a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 NLW MS 16276D.
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004440338
  • Dates of Creation
    • 1831-1927.
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg yn bennaf, Saesneg.
  • Physical Description
    • 6 ff. (ff. 5 verso-6 yn wag).
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau, 1831, 1838 a 1926-1927, yn ymwneud â Chapel yr Annibynwyr, Rhuthun, a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch. = Papers, 1831, 1838 and 1936-1927, relating to the Congregational Chapel, Ruthin, and the Ruthin and District Welsh Society.
Maent yn cynnwys nodiadau o bregeth, 1831, gan y Parch. William Williams, y Wern (ff. 1-2); llythyr, 1838, yn gwahodd y Parch. Richard Jones, Aberhosan, i ddod yn weinidog ar Gapel yr Annibynwyr, Heol y Ffynnon, Rhuthun (ff. 3-4); a derbyniadau a thaliadau, 1926-1927, Cymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch (f. 5). = The papers consist of notes on a sermon, 1831, by the Rev. William Williams, Wern (ff. 1-2); a letter, 1838, inviting the Rev. Richard Jones, Aberhosan, to become minister of the Congregational Chapel, Well Street, Ruthin (ff. 3-4); and receipts and payments, 1926-1927, of the Ruthin and District Welsh Society (f. 5).

Arrangement

Trefnwyd yn gronolegol yn LlGC.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Parch. Thomas Lloyd; Rhuthun; Rhodd; Ebrill 1943

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Preferred citation: NLW MS 16276D.

Archivist's Note

Awst 2006.

Lluniwyd y disgrifiad gan Siân Bowyer;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Item: 1.1 Dogfennau Rhydd (NLW MS 16276D). Action: Adolygwyd y cyflwr. Action identifier: 4440338. Date: 20060906. Authorization: Detholwyd ar gyfer cadwraeth. Authorizing institution: LlGC. Action agent: J. Thomas. Status: Dogfennau Rhydd (NLW MS 16276D) : Plygwyd y ddogfen yn y gorffennol ac mae wedi torri ar hyd rhai plygiadau. Institution: WlAbNL.
Item: 1.2 Dogfennau Rhydd (NLW MS 16276D). Action: Gwnaed gwaith cadwraeth. Action identifier: 4440338. Date: 20060913. Authorizing institution: LlGC. Action agent: G. Edwards. Status: Dogfennau Rhydd (NLW MS 16276D) : Trwsiwyd a glanhawyd y dogfennau. Institution: WlAbNL.

Related Material

Cedwir archifau yn ymwneud â Chapel Annibynwyr Pendref, Rhuthun, yn Archifdy sir Ddinbych, Rhuthun; cofrestri, 1810-1851, yn yr Archifdy Gwladol; ac adroddiadau blynyddol, 1892-1949, yn LlGC.

Additional Information

Published

Geographical Names