Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud ag agweddau o weinyddu'r Eglwys a'r Ysgol Sul. Ymhlith cofnodion eraill ceir Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, 1940-1960, Llyfrau'r Trysorydd, 1940-1983, Adroddiadau Blynyddol, 1972-1995, Llyfr Ardreth yr Eisteddleoedd, 1950-1981, a Llyfrau'r Ysgrifennydd, 1908-1949.
CMA: Cofysgrifau Capel Boduan, Boduan
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 BODUAN
- Alternative Id.(alternative) vtls004220418(alternative) (WlAbNL)0000220418
- Dates of Creation
- 1908-1996
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh Cymraeg
- Physical Description
- 0.027 metrau ciwbig (3 bocs)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Moduan, plwyf Boduan, Sir Gaernarfon. Ym 1999 unwyd Eglwys Boduan â Chapel Moreia, Morfa Nefyn.
Dechreuodd yr achos yn yr ardal yn Nhŷ Newydd yn y 1800au a chofrestrwyd y tŷ hwn fel addoldy ar gyfer ymneilltuwyr ym 1812. Ychydig ar ôl hyn adeiladwyd ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul wrth Dan-y-graig, a gofrestrwyd ym 1819. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth Nefyn yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.
Arrangement
Trefnwyd ar sail cynnwys yn LlGC yn chwe chyfres yn ôl math o gofnod: Llyfrau Casgliad y Weinidogaeth, Llyfrau Cyfrifon y Trysorydd, papurau ynglŷn ag eiddo, Adroddiadau Blynyddol, Llyfrau'r Eisteddleoedd, a Llyfrau'r Ysgol Sul.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Adneuwyd gan Mr R. Emlyn Jones, Pwllheli, trwy law y Parch. Goronwy Prys Owen, Y Bala, Tachweddd 2001.; CMA2001/16
Note
Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Moduan, plwyf Boduan, Sir Gaernarfon. Ym 1999 unwyd Eglwys Boduan â Chapel Moreia, Morfa Nefyn.
Dechreuodd yr achos yn yr ardal yn Nhŷ Newydd yn y 1800au a chofrestrwyd y tŷ hwn fel addoldy ar gyfer ymneilltuwyr ym 1812. Ychydig ar ôl hyn adeiladwyd ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul wrth Dan-y-graig, a gofrestrwyd ym 1819. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth Nefyn yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.
Archivist's Note
Lluniwyd Rhagfyr 2001; adolygwyd Mai 2002.
Lluniwyd gan Merfyn Wyn Tomos, adolygwyd gan Martin Robson Riley.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Owen, Goronwy P., Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd (Abertawe, 1978).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published