CMA: Cofysgrifau Eglwys Salem, Pwllheli,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 SALPWLL
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004664740
  • Dates of Creation
    • 1910-1987 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 2 focs ; 0.058 metrau ciwbig.
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cofysgrifau Eglwys Salem, Deneio, Pwllheli, yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1910-1977; llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1927-1975; cofnodion gweinyddol, 1915-1987; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1913-1939.

Administrative / Biographical History

Adeiladwyd y capel, wedi ei gynllunio gan Thomas Thomas, Landore, yn 1864 yn ardal Deneio, Pwllheli. Ehangwyd y capel yn 1893. Dinistriwyd gan dân yn 1913 ac fe'i adnewyddwyd ac ail-agorwyd yn 1915. Caewyd y capel yn 1996 a ffurfiwyd Capel y Drindod pan unwyd eglwysi South Beach, Salem a Penmount yn Ionawr 1997, yng nghapel Penmount.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn bedair cyfres: cofnodion ariannol amrywiol; llyfrau casgliad y weinidogaeth; cofnodion gweinyddol; a llyfrau cofnodion athrawon yr Ysgol Sul.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Mr Elfed Gruffydd; Pwllheli; Adnau; Mehefin 2009; 004664740.

Note

Adeiladwyd y capel, wedi ei gynllunio gan Thomas Thomas, Landore, yn 1864 yn ardal Deneio, Pwllheli. Ehangwyd y capel yn 1893. Dinistriwyd gan dân yn 1913 ac fe'i adnewyddwyd ac ail-agorwyd yn 1915. Caewyd y capel yn 1996 a ffurfiwyd Capel y Drindod pan unwyd eglwysi South Beach, Salem a Penmount yn Ionawr 1997, yng nghapel Penmount.

Archivist's Note

Mawrth 2012.

Lluniwyd gan Wil Williams. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr hwn: 'Yn achos Crist' gan Arthur Meirion Roberts yng nghasgliad llyfrau LlGC; a gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell. Trosglwyddwyd cofnodion cyfarfodydd swyddogion Capel Penmount, 1973-1983, a gafwyd yng nghanol y casgliad, i LlGC Mân Adnau 1612 /XVIII..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir papurau ychwanegol yn ymwneud â Chapel Salem yng nghasgliadau llyfrau LlGC ac yng nghasgliad CMA: adroddiadau blynyddol, 1900-1971 (gyda bylchau); cofnodion, 1913; cofnodion cyfarfod ail adeiladu'r capel, 1913; cais am ganiatâd i werthu eiddo, 1936-1939; a rhaglen cymdeithas ddiwylliadol, 1947-1948; ceir nodiadau hanes Capel Salem yng nghasgliad D. G. Lloyd Hughes yn LlGC. Ceir cofnodion yr Ysgol Sul, lluniau a chofnodion eraill yn Archifdy Sirol Caernarfon, a cheir cynlluniau a chofnodion eraill ym Mhrifysgol Bangor.

Additional Information

Published