[English] Y mis hwn rydym trafod sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia yng nghanol y 19eg ganrif. Ceir yma hefyd linciau i nifer o wefannau dethol a rhestr ddarllen. listed on
.

Lluniau hawlfraint © Prifysgol Bangor. Mae’r rhain yn linciau i ddelweddau mwy a rhagor o wybodaeth
Yn ystod y 19eg ganrif dechreuodd rai unigolion yng Nghymru a’r Unol Daleithiau gredu yn y welediaeth o greu Gwladfa Gymreig. Eu gobaith oedd y byddai modd i Gymry gael byw ac addoli a chadw eu hiaith a’u traddodiadau yn fyw heb unrhyw ddylanwadau estron.
Ymysg y gŵyr mwyaf blaenllaw a oedd o blaid gweld Gwladfa yn cael ei sefydlu oedd y Parchedig Michael D. Jones, a oedd yn weinidog gyda’r Annibynwyr. Treuliodd ef gyfnod yn yr Unol Daleithiau fel gweinidog, a buan y sylweddolodd Michael D. Jones pa mor gyflym y byddai’r Cymry yn ymgynefino mewn gwlad newydd gan golli eu hiaith. Roedd ef o’r farn y byddai’n well i’r Cymry ymfudo i wlad lle nad oedd Saesneg yn brif iaith. Edrychwyd ar sawl ardal cyn penderfyny ar Batagonia yn yr Ariannin fel lle delfrydol i ymsefydlu.
Ar y cychwyn, cafwyd problemau i ariannu’r fenter a chasglu digon o gefnogaeth. Roedd y trafodaethau gyda llywodraeth Ariannin hefyd yn drafferthus.
Fodd bynnag, cychwynodd y grwp cyntaf o ymfudwyr ar yr 28ain o Fai 1865. Hwyliodd 150 o Lerpwl ar y Mimosa. Cymerodd ddau fis iddynt gyrraedd New Bay (a enwyd yn ddiweddarach yn Porth Madryn / Puerto Madryn).
Mewn gwirionedd, nid oedd bywyd ym Mhatagonia yn hawdd. Roedd yna dlodi a chaledi wrth iddynt geisio gwneud bywoliaeth o’r tir. Ond, yn raddol, sefydlwyd cymdeithasau Cymraeg eu hiaith ac adeiladwyd capeli ac ysgolion.
Yn ystod yr 20ed ganrif, gwelwyd dirywiad yn yr iaith a’r diwylliant Cymreig, fel y daeth Sbaeneg yn iaith swyddogol yn y wlad. Ond, yn y 60au atgyfnerthwyd y cysylltiadau rhwng Cymru a’r Wladfa ac fe arweiniodd hyn at adfywiad yn yr iaith a’r diwylliant ymysg disgynyddion yr ymfydwyr cyntaf.
Ganed Michael D. Jones yn Llanuwchllyn ger y Bala. Roedd yn genedlaetholwr ac yn weinidog gyda’r Annibynwyr. Ond fe’i adwaenir yn bennaf fel sefydlydd y Wladfa ym Mhatagonia.
Yn dilyn cyfnod o astudiaeth yng Nghaerfyrddin a Llundain, aeth i weithio i Ohio ym 1848, lle’r oedd ei chwaer wedi ymsefydlu er 1837. Fe’i ordeinwyd yn weinidog yn Cincinnati, lle yr oedd yn dyst i’r holl galedi a wynebodd y Cymry yn eu cymunedau newydd. Arhosodd Michael D. Jones yno am ddwy flynedd. Dychwelodd i Gymru gyda’r bwriad o sefydlu Gwladfa a fyddai’n bell oddi wrth dylanwadau Seisnig ac Americanaidd.
Yng Nghymru daeth yn Brifathro Coleg Annibynol y Bala. Priododd Ann Lloyd ym 1859 gan ymgartrefu yn Bodiwan, Bala. Cawsant bedwar o blant, Llwyd, Mihangel, Myfanwy a Maironwen.
Er i Michael D. Jones ymweld â’r Wladfa ym 1882, ni symudodd yno i fyw. Yn hytrach, ymfudodd ei feibion i’r Ariannin. Lladdwyd un ohonynt, Llwyd ap Iwan, ym 1909.
- Elen Wyn Simpson, Archifydd Cynorthwyol, Archifdy, Prifysgol Bangor.
Links
are provided to records on Copac for these items. Copac
is the free, web based national union catalogue, containing the holdings
of many of the major university and National Libraries in UK and Ireland
plus a number of special libraries. For more information about accessing
items see the FAQs
on the Copac website.
You can receive regular updates on our special features by joining our mailing list.
[ top of page ]